P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sue Waterson ar ôl casglu 66 llofnod bapur

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal gwerthu’r tir a’r ffordd fynediad y tu ôl i eiddo 1 i 67 Park View Terrace, Abercwmboi hyd nes y ceir sylwadau gan y gymuned leol, a hyd nes y caiff opsiynau eraill eu hystyried. Mae’r gwerthiant hwn yn mynd rhagddo heb hysbysu nac ymgynghori â’r bobl hynny a gaiff eu heffeithio gan werthiant o’r fath.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Cwm Cynon

·         Canol De Cymru